CROESO I NODDFA

Addolwch gyda ni ar y Sul!
Cinio 1yp - Oedfa 2yp - Panad 3yp
Canolfan Morfa Nefyn
Croeso i bawb!



Lloua' Bach
Croeso mawr i Loua’ Bach! Mae croeso mawr i fabanod a phlant bach, ynghyd â’u rhieni, neiniau, teidiau a gofalwyr.
Mae croeso mawr i rieni sy’n disgwyl i ymuno efo ni hefyd! Ffordd bach neis i ddod yn rhan o gymuned i’ch cefnogi pan ddaw bychan.
Fe allwch chi gofrestru eich plentyn ar gyfer Lloua' Bach fan hyn.
Am fwy o wybodaeth, cysylltwch â ni!
.png)
>>> Ffrind.
Ydi dy enaid yn chwilio am lonyddwch na all "Llŷn ar derfyn dydd" ei gynnig?
All tonnau Aberdaron olchi dy bechod di i ffwrdd?
All Enlli a'i llonyddwch dawelu lleisiau gwarth a bai?
All gyrraedd copa Garn Fadryn gael chdi cam yn nes at Dduw?
>>> Na - ond mae newyddion da i chdi.
Daeth Iesu er dy fwyn di.
Daeth Iesu i olchi dy bechod di drwy waed ei groes.
Daeth Iesu i dawelu cyhuddiadau gwarth a bai unwaith ac am byth.
Daeth Iesu i wneud y ffordd i chdi allu nabod Duw yn Dad.
>>> Tyd i gyfarfod Iesu a dod o hyd i lonydd go iawn i dy enaid.

Codaf fy llygaid tua'r mynyddoedd;
o ble y daw cymorth i mi?
Daw fy nghymorth oddi wrth yr ARGLWYDD,
creawdwr nefoedd a daear.
- Y Salmau 121:1-2
.png)