top of page

Mae Noddfa yn eglwys o ddilynwyr Iesu Grist sy'n dyheu i weld pobl LlÅ·n yn dod i nabod yr Arglwydd, a phrofi bywyd yn ei holl gyflawnder gyda fe.

EIN STORI

Mae stori Noddfa yn dechrau blynyddoedd yn ôl yng ngweddïau pobl Duw i weld yr Arglwydd yn codi gwaith newydd ym Mhen LlÅ·n. Buodd Steve a Marian yn gweddïo am hynny am ddegawdau. Symudodd Arawn ac Anest i'r ardal saith mlynedd yn ôl, a buon nhw'n gweddïo am yr un peth. O bellter yn Ne Cymru, buodd Alun ac Elen yn gweddïo i weld Duw yn symud yn yr un ffordd.

​

Dwy flynedd a hanner yn ôl, profodd Alun ac Elen alwad gan Dduw i symud i a gweinidogi i bobl Pen LlÅ·n. Daeth yr Arglwydd â'r chwech ohonom at ein gilydd er mwyn paratoi i blannu eglwys yn LlÅ·n, a dros y dwy flynedd diwethaf, buom yn gosod y sylfeini.

​

Ym mis Hydref 2025, fe wnaethon ni ymrwymo i fyw gyda'n gilydd fel eglwys, er mwyn gweld enw Iesu yn cael ei ddyrchafu ym Mhen LlÅ·n.

IMG_3391_edited.jpg

EIN GALWAD

Mae gan Dduw alwad driphlyg ar ein cyfer fel eglwys;
 

  • i ogoneddu, i garu, i addoli ac i wasanaethu ein Duw byw sydd wedi ein caru ni yn gyntaf (Math 22:37, Rhuf 12:1)

 

  • i garu ein brodyr a chwiorydd yn ein heglwys drwy gyd-adeiladu a gwasanaethu ein gilydd (Ioan 13:34-35)
     

  • i garu ein cymuned drwy genhadu a’i gwasanaethu, drwy gyhoeddi’r newyddion da i’r rheini nad sy’n nabod Crist ac i’w bendithio nhw gyda’n bywydau (1 Thes 2:8, Gal 6:10)

EIN GWELEDIGAETH

Fel rhan o gorff Crist yn Mhen LlÅ·n;
 

  • rydyn ni’n dymuno bod yn bresenoldeb real yn ein cymuned lle mae pobl yn ein nabod fel cymdogion a chyfeillion iddynt sy’n gweithio ar eu lles nhw, fel oedd Crist yn gwneud tra yn y byd (Actau 2:47, Jer 29:7)
     

  • rydyn ni’n dymuno bod pawb sy’n ymwneud â ni’n profi croeso twymgalon sy’n adlewyrchu’r ffordd mae’r Arglwydd wedi ein croesawu ni (Math 22:39)
     

  • rydyn ni’n dymuno bod yn eglwys sy’n cynnig dysgeidiaeth iach fel bod pobl yn dod i ddeall y newyddion da am Iesu Grist, a thyfu yn eu hadnabyddiaeth o Dduw (Titus 2:1, 2 Pedr 3:18), gan wneud hynny yn y Gymraeg, sef iaith y galon i’r rhan helaeth o’n cymuned
     

  • rydyn ni’n dymuno bod yn eglwys letygar, yn rhannu ein bywydau gyda’n gilydd a gyda’r bobl sydd o’n cwmpas (Heb 13:2)
     

  • rydyn ni’n dymuno bod yn eglwys sy’n gweddïo, mewn addoliad i Dduw ac mewn eiriolaeth dros bobl LlÅ·n a’r byd (1 Thes 5:17)

bottom of page