Dewis Graslon Duw
- Alun Bryn

- May 16
- 3 min read
Cyn seilio'r byd, fe'n dewisodd yng Nghrist i fod yn sanctaidd ac yn ddi-fai ger ei fron mewn cariad. - Effesiaid 1:4
Cyn i'r greadigaeth ddod i fodolaeth, dim ond Duw oedd yn bod. Cymundeb perffaith rhwng y Tad, y Mab a'r Ysbryd mewn tragwyddoldeb. Roedd Duw yn rhydd ynddo ef ei hun i ddewis gwneud unrhyw beth, unrhyw lwybr a fyddai'n cyd-fynd â'i natur a'i gymeriad perffaith. Gan wybod bod y bydysawd yr oedd yn mynd i'w greu yn mynd i syrthio oherwydd pechod dyn, dewisodd Duw, yn nhragwyddoldeb, i adfer y greadigaeth drwy ei Fab.
Wn i ddim amdanoch chi, ond yn aml, wrth wneud dewisiadau, rwy'n syrthio i'r perygl o ddiffyg cynllunio manwl. Wrth geisio cyflawni prosiectau DIY, mae patrwm cyson wedi dod yn amlwg yn y ffordd rwy'n gweithio. Mae'r prosiect yn cychwyn gyda'r darlun mawr, y weledigaeth fawr ar gyfer sut bydd popeth yn edrych ar ôl i mi groesi'r llinell derfyn. Yna, rwy'n ymdaflu i'r gwaith llawer rhy sydyn a dim ond wedyn yn sylweddoli bod angen i mi brynu offer neu declyn nad oes gennyf i. Dim ond ar ôl i mi gychwyn rwy'n sylweddoli bod y dasg yn mynd i fod ymhell tu hwnt i'm gallu, neu fod y pren sydd gennyf i o'r trwch anghywir!
Nid felly gyda'r cynlluniau y mae'r Arglwydd yn eu gwneud. Cyflawnodd Duw ei ddewis i achub y greadigaeth trwy gynllun lle'r oedd pob manylyn prydferth wedi ei drefnu o'r dechrau. Dewisodd Duw yng Nghrist i achub y greadigaeth o'i wirfodd drwy ddod i mewn i'r byd ar ffurf dyn a byw, marw ac atgyfodi mewn lleoliad ac amser oedd wedi ei drefnu o flaen llaw. Arfaethodd Duw gyflawni ei fuddugoliaeth ar yr union ddiwrnod a'r union bryn lle codwyd y groes, a thrwyddi hi chwalodd grym pechod ac angau oedd yn gormesu'r greadigaeth. Roedd gwaith achubol Iesu wedi ei drefnu i'r manylyn.
Ond roedd dewis yr Arglwydd yn fanylach fyth - roedd yr union bobl syrthiedig a fyddai'n derbyn bendith iachawdwriaeth wedi eu dewis hefyd! Dewisodd yr Arglwydd ei bobl ynddo ef ei hun cyn seilio'r byd. Am sylfaen gadarn i'n hiachawdwriaeth ni!
Dewisodd y Tad bobl iddo'i hun yn y Mab - pobl y byddai'r Mab yn eu caru ac yn eu cadw (Ioan 6:37). Cafodd y bobl hynny eu rhoi i'r Mab gyda'r pwrpas o fod yn sanctaidd ac yn ddi-fai gerbron y Tad. Yn ei gariad, ymdaflodd Iesu i'r gwaith o'n glanhau ni ac o ddelio â'n bai ni unwaith ac am byth drwy dywallt ei waed a chymeryd ein pechod arno ef ei hun drwy farw ar y groes. Gymaint yw cariad Iesu tuag atom ei fod e wedi dymuno ein cyflwyno ni i'w Dad heb frycheuyn o ddrygioni arnom, fel ein bod ni, fel Iesu ei hun, wrth fodd y Tad! Gymaint oedd ei gariad tuag atom, dewisodd gyflawni hyn drwy roi ei fywyd ei hun drosom.
Cymer gam trosiadol yn ôl o'r holl gynllun ac ystyria fawredd hyn i gyd. Os wyt ti wedi credu yn yr Arglwydd Iesu, mae hynny'n golygu dy fod di ar feddwl a chalon Duw cyn iddo greu unrhyw beth. Os wyt ti yng Nghrist, rwyt ti wedi dy ddewis gan Dduw ei hun, yn ei gariad, i dderbyn maddeuant dy feiau ac i fod yn sanctaidd ger ei fron. Rwyt ti wedi dy ddewis i fod wrth fodd y Tad, a hynny oherwydd gwaith Crist yn unig er dy fwyn. Diolch iddo!
Amser i fyfyrio
Beth mae myfyrio ar y pethau uchod yn dysgu i mi am Dduw?
Sut mae'r gwirioneddau hyn yn siapio fy meddwl heddiw?
Beth mae'n edrych fel i mi fyw yng ngoleuni'r gwirioneddau hyn heddiw?
Myfyriwch dros eiriau Pedr Fardd, a chlodforwch Dduw am ei gariad!
Cyn llunio'r byd, cyn lledu'r nefoedd wen,
Cyn gosod haul, na lloer, na sêr uwchben,
Fe drefnwyd ffordd yng nghyngor Tri yn Un
I achub gwael golledig euog ddyn!
Trysorwyd gras, ryw annherfynol stôr, Yn Iesu Grist cyn rhoddi deddf i'r môr; A rhedeg wnaeth bendithion arfaeth ddrud
Fel afon gref lifeiriol dros y byd!
Mae'r utgorn mawr yn seinio'n awr i ni
Ollyngdod llawn trwy'r Iawn ar Galfari: Mawl ym mhob iaith drwy'r ddaear faith a fydd,
Am angau'r Groes, a'r gwaed a'n rhoes yn rhydd!
- Pedr Fardd
.png)