top of page

Etifeddiaeth Ogoneddus

May 24
2 min read

Updated: May 30

Ynddo ef hefyd rhoddwyd i ni ran yn yr etifeddiaeth, yn rhinwedd ein rhagordeinio yn ôl arfaeth yr hwn sy'n gweithredu pob peth yn ôl ei fwriad a'i ewyllys ei hun. A thrwy hyn yr ydym ni, y rhai cyntaf i obeithio yng Nghrist, i ddwyn clod i'w ogoniant ef. - Effesiaid 1:11-12

Rydym eisoes wedi gweld bod Iesu Grist yn rhannu'r cyfan sy'n eiddo iddo ef gyda'i bobl. Un ffordd mae'r gair yn esbonio hynny yw ein bod yn gyd-etifeddion gyda Christ (Rhuf 8:17). Wrth i ni aros am tragwyddoldeb gyda Christ, rydyn ni'n gwneud hynny gan ddeall ein bod ni'n aros am etifeddiaeth. Mae'r etifeddiaeth honno wedi ei bwriadu ar ein cyfer ni ers tragwyddoldeb, mae hi'n eiddo i ni yng Nghrist nawr, ond rydyn ni'n aros i'w mwynhau hi'n llawn pan ddaw yr Arglwydd yn ôl.


Ar y diwrnod hwnnw, fe fyddwn ni yn llawn ystyr y gair yn gyd-etifeddion gyda Christ, yn mwynhau perthynas gyda'r Tad heb wedi ei effeithio gan bechod, ac yn teyrnasu dros greadigaeth newydd gyda Christ. Mae gan hynny goblygiadau wrth gwrs ar gyfer y ffordd rydyn ni'n byw heddiw. Y mae gennym ni ran mewn etifeddiaeth dragwyddol, i deyrnasu'n gyfiawn gyda Christ ac i fwynhau holl fendithion Crist am byth; ond drwy atgyfodiad Crist, mae grym y greadigaeth newydd eisoes wedi torri i mewn i'r byd! Mae ein hetifeddiaeth i'w mwynhau heddiw, ond hynny mewn brwydr yn erbyn y rhannau hynny ohonom sy'n perthyn i'r hen gnawd sy'n dal i ddymuno byw yn ôl yr hyn oedd yn eiddo i ni cyn adnabod Crist.


Mae Paul yn gwneud yn glir yn adnod 12 beth yw nod ni yn derbyn etifeddiaeth - clod yr Arglwydd ei hun, y rheswm pennaf rydyn ni'n bodoli.


Pa etifeddiaeth wnei di gofleidio heddiw?


Amser i fyfyrio


  1. Beth mae myfyrio ar y pethau uchod yn dysgu i mi am Dduw?


  2. Sut mae'r gwirioneddau hyn yn siapio fy meddwl heddiw?


  3. Beth mae'n edrych fel i mi fyw yng ngoleuni'r gwirioneddau hyn heddiw?

 
 
bottom of page