top of page

Gras a thangnefedd i chwi

Paul, apostol Crist Iesu trwy ewyllys Duw, at y saint sydd yn Effesus, yn ffyddlon yng Nghrist Iesu. Gras a thangnefedd i chwi oddi wrth Dduw ein Tad a'r Arglwydd Iesu Grist. - Effesiaid 1:1-2

Mae cwrdd â Iesu yn newid pobl.


Ar un adeg, barn a melltith oedd dymuniad pennaf Paul ar gyfer yr eglwys. Wrth iddo dynnu at ddiwedd ei yrfa fel Pharisead, ymroddodd Paul ei holl nerth i erlid eglwys Iesu Grist. Ond newidiodd popeth i Paul pan gyfarfu â Iesu Grist ar y ffordd i Ddamascus. Profodd Paul newid llwyr yn ei fywyd; fe aeth o fod yn erlidiwr i fod yn apostol, am fod Duw wedi dewis ei ddefnyddio i gyhoeddi Crist i'r cenhedloedd. Fe aeth o fod yn bechadur mewn gwrthryfel chwyrn yn erbyn Duw i fod yn sant ac yn aelod o eglwys Crist. Yn ei lythyr i'r eglwys yn Effesus, mae'r Apostol Paul yn ysgrifennu at frodyr a chwiorydd, seintiau sydd, fel Paul, wedi derbyn Iesu yn Waredwr. Nid barn a melltith yw dymuniad Paul ar gyfer yr eglwys bellach, ond gras a thangnefedd.


Roedd derbynnwyr ei lythyr eisoes wedi profi gras a thangnefedd. Roedden nhw eisoes wedi profi gras drwy dderbyn maddeuant am eu pechodau, maddeuant a enillodd Iesu Grist unwaith ac am byth ar eu cyfer nhw drwy farw ar y groes. Roedden nhw eisoes wedi profi tangnefedd drwy gael eu cymodi â Duw a'u mabwysiadu gan eu Tad nefol. Ond roedd Paul yn dymuno iddyn nhw brofi mwy o ras a mwy o dangefedd eto oddi wrth Dduw y Tad a'r Arglwydd Iesu Grist!


Pan briododd Elen a minnau, mi ddes i'n ŵr iddi yn y fan a'r lle. Roedd y berthynas wedi selio yr eiliad y cyfamodom â'n gilydd ger bron Duw. Ond yn y blynyddoedd ers inni briodi, mae hi wedi parhau i ddangos gras i mi, ac wedi amlhau ei gras hi ataf fi fel dyn ffaeledig, amherffaith sydd, ar lawer achlysur, wedi ei siomi hi! Mae pob methiant ar fy rhan i yn gyfle iddi ddangos ei chariad a'i gras hi tuag ataf dro ar ôl tro. Roedd y briodas wedi ei selio yn ôl ym mis Gorffennaf 2020, ond mae'r gras rydw i wedi profi ers hynny heb stopio amlhau.


Mae Duw yn tywallt ei ras arnom yng Nghrist yr eiliad rydyn ni'n dod i berthynas gyda Iesu, drwy roi ein ffydd ni ynddo fe a'i gofleidio fel ein priod ni a'n rhan. Ond mae gras a thangnefedd Duw tuag atom yn amlhau yn feunyddiol wrth i ni brofi ei faddeuant a'i garedigrwydd yng nghanol ein pechod a'n methiannau parhaus. Mae'r berthynas wedi selio unwaith ac am byth drwy aberth Iesu, ond mae'r Arglwydd Dduw yn parhau i dywallt ei ras a'i dangnefedd arnom. Diolch iddo!


Amser i fyfyrio


  1. Ym mha ffyrdd ydw i angen pwyso ar ras Duw heddiw?


  2. Ym mha ffyrdd mae'r tangnefedd sydd rhyngof i a Duw yn gysur i mi?


  3. Dros bwy fedrai weddïo ar i'r Arglwydd dywallt ei ras a'i dangnefedd arnyn nhw?

    Meddyliwch am sefyllfaoedd penodol ym mywydau'r bobl mae'r Arglwydd wedi rhoi yn eich bywyd chi heddiw.

 
 
bottom of page