top of page

Helaethrwydd Gras Duw

Updated: May 30

Hysbysodd i ni ddirgelwch ei ewyllys, yn unol â'r bwriad a arfaethodd yng Nghrist yng nghynllun cyflawniad yr amseroedd, sef dwyn yr holl greadigaeth i undod yng Nghrist, gan gynnwys pob peth yn y nefoedd ac ar y ddaear. - Effesiaid 1:9-10

Ar ganol ein cysawd ni (solar system), mae'r Haul, y calon fel petai. Yr Haul sy'n goleuo gweddill y cysawd. Goleuni'r Haul yw ffynhonnell yr egni sy'n cadw holl greaduriaid y cysawd yn fyw. Grym disgyrchiant yr Haul sy'n cadw'r planedau mewn orbit o gwmpas yr Haul. Yn nhrefn Duw, heb yr Haul, does dim cysawd. Yr Haul yw calon llewyrchus y cysawd - ond nid yr Haul yw'r cysawd cyfan! Mae mwy i'r cysawd na'r Haul yn unig.


Dyma gyffelybiaeth ar gyfer yr efengyl. Mae gan yr efengyl galon - marwolaeth Iesu ar y groes, yn cymryd lle pechaduriaid. Dyma yw calon y newyddion da, y rhan mwyaf creiddiol ohoni sy'n golygu bod maddeuant pechod a chymod gyda Duw ar gael. Serch hynny, mae mwy i'r efengyl na maddeuant pechodau - ond fel y mae'r Haul yn goleuo gweddill y cysawd, fedrwn ni ond deall darnau eraill yr efengyl mewn perthynas â gwaith Iesu ar y groes. Fel mae'r Haul yn dal y cysawd at ei gilydd, gwaith Iesu drwy'r groes sy'n dal yr efengyl gyfan at ei gilydd. Fe allwn ni gamu yn ôl o'r groes (tra'n ei chadw hi yn hollol ganolog!) er mwyn gwerthfawrogi ehangder yr efengyl, a helaethrwydd gwaith achubol Iesu.


Nid dim ond achub pechaduriaid syrthiedig rhag eu pechod mae'r Arglwydd yn gwneud, ond adfer creadigaeth syrthiedig hefyd - y cyfan yn y nefoedd ac ar y ddaear. Y mae'r greadigaeth yn aros ar gyfer y rhyddhad hwn rhag llygredigaeth (Rhuf 8:19-22). Er mor ofnadwy o brydferth yw'r greadigaeth rydyn ni'n ei gweld o'n cwmpas ni, mae hi dal yn gaeth i lygredigaeth - ond mae adferiad ar y ffordd! Ar y groes, fe sathrodd Iesu ar ben y sarff, yn chwalu pŵer Satan oedd yn gorthrymu'r greadigaeth fel y daw rhyddid i'r greadigaeth yn y pen draw. Bydd y greadigaeth newydd sydd ar y ffordd yn berffaith am y bydd hi wedi cael ei dwyn i undod ym Mab perffaith Duw. Yr Arglwydd Iesu eto yw'r allwedd i Dduw yn achub a bendithio'r greadigaeth.


Mae gennym ni Dduw sydd yn mynd i adfer y cyfan yng Nghrist, fel rhan o'i gynllun tragwyddol. Os yw'r groes ar ganol y newyddion da yn dangos cyfoeth gras Duw (Eff 1:7), mae cynllun yr Arglwydd i adfer y greadigaeth oll yng Nghrist yn dangos helaethrwydd gras Duw. Dyma anhygoel ras!


Amser i fyfyrio


  1. Beth mae myfyrio ar y pethau uchod yn dysgu i mi am Dduw?


  2. Sut mae'r gwirioneddau hyn yn siapio fy meddwl heddiw?


  3. Beth mae'n edrych fel i mi fyw yng ngoleuni'r gwirioneddau hyn heddiw?

 
 
bottom of page