Mesur Cyfoeth Gras Duw
- Alun Bryn

- May 20
- 2 min read
Ynddo ef y mae i ni brynedigaeth trwy ei waed, sef maddeuant ein camweddau; dyma fesur cyfoeth y gras a roddodd mor hael i ni, ynghyd â phob doethineb a dirnadaeth. - Effesiaid 1:7-8
Meddyliwch am rywun rydych chi'n ei garu. Beth yw'r weithred rydych chi wedi ei gwneud sy'n dangos y mesur mwyaf o gariad tuag atyn nhw? Pa beth rydych chi wedi gwneud dros berson sy'n cyfathrebu ac yn dangos eich cariad chi mwy nag unrhyw beth arall?
Mae holl waith Iesu drosom ni yn dangos ei ras tuag atom. Byw bywyd perffaith er mwyn rhoi cyfiawnder i ni ger bron Duw, atgyfodi i chwalu grym pechod ac angau drosom ni, eiriol drosom ni ger bron ein Tad - mae'r rhain i gyd yn dangos cariad a gras Iesu tuag atom.
Ond mae un weithred gan Dduw yn dangos beth yw mesur cyfoeth gras Duw tuag atom ni mwy nag unrhyw weithred arall - aberth Iesu ar y groes, gwaed yr Oen sanctaidd yn llifo i'n hachub. Marwolaeth yr Arglwydd Iesu yw'r digwyddiad sy'n dangos mwy nag unrhywbeth arall beth yw maint cariad hunan-aberthol Duw. Gymaint yw gras Duw tuag atom, fe gymrodd y Mab Tragwyddol ein lle, a chymryd y gosb a'r farn roedden ni'n llwyr haeddiannol ohonynt, a thryw dywalltiad ei waed ef, y mae i ni brynedigaeth. Dim condemniad mwy - rydyn ni wedi ein prynu gan Iesu rhag y gosb.
Mae'r groes yn dangos beth yw mesur gras Duw tu hwnt i unrhyw amheuaeth - carodd Duw ni bechaduriaid gymaint nes iddo roi ei unig Fab er mwyn i ni dderbyn maddeuant ganddo.
Rhaid i ni gofio rhywbeth sylfaenol am ras. Gras yw'r hyn rydyn ni'n ei dderbyn heb unrhyw haeddiant ar ein rhan ni. Does dim byd fedrwn ni ei wneud i haeddu beth gwnaeth Iesu drosom ni! Os oedd ein haeddiant ni yn chwarae rhan yn beth mae Duw'n ei roi i ni, nid gras bydden ni'n ei alw.
Aberth Iesu sy'n dangos mesur gras Duw tuag atom - rhodiwch mewn gras, gan ddiolch iddo!
Amser i fyfyrio
Beth mae myfyrio ar y pethau uchod yn dysgu i mi am Dduw?
Sut mae'r gwirioneddau hyn yn siapio fy meddwl heddiw?
Beth mae'n edrych fel i mi fyw yng ngoleuni'r gwirioneddau hyn heddiw?
Myfyriwch dros eiriau Pantycelyn, a chlodforwch Dduw am ei ras!
Gwaed dy Groes sy'n codi i fyny 'r eiddil yn goncwerwr mawr: Gwaed dy Groes sydd yn darostwng cewri cedyrn fyrdd i lawr. Gad im deimlo awel o Galfaria fryn.
Cymer, Iesu, fi fel 'rydwyf, fyth ni allaf fod yn well; D'allu di a'm gwna yn agos, f'wyllys i yw mynd ymhell: Yn dy glwyfau bydda' i'n unig fyth yn iach.
Ymddiriedaf yn dy allu, mawr yw'r gwaith a wn'est erioed; Ti ge'st angeu, Ti ge'st uffern, Ti ge'st Satan dan dy droed. Pen Calfaria nac aed hwnnw byth o'm côf!
- William Williams, Pantycelyn
.png)