Tad Tragwyddol
- Alun Bryn

- May 19
- 2 min read
O wirfodd ei ewyllys fe'n rhagordeiniodd i gael ein mabwysiadu yn blant iddo'i hun trwy Iesu Grist, er clod i'w ras gogoneddus, ei rad rodd i ni yn yr Anwylyd. - Effesiaid 1:5-6
Pan brynon ni ein tŷ cyntaf, roedd gennym ni nifer o fwriadau oedd i gyd yn cyd-sefyll. Roedd angen paentio, roedd angen ail-wefru, roedd angen ail-wneud yr ystafell ymolchi a'r gegin, a llwyth o bethau eraill. Roedd y rhain i gyd yn fwriadau oedd gennym ni cyn i'r tŷ ddod yn eiddo i ni. Serch hynny, roedd un bwriad oedd yn codi uwchben yr holl fwriadau eraill, y nod pennaf ar gyfer y tŷ, sef byw ynddo a'i fwynhau.
Bwriadodd yr Arglwydd ein gwneud ni yn sanctaidd ac yn ddi-fai ger ei fron mewn cariad. Clod iddo am hynny! Roedd angen delio â'n anghyfiawnder, bryntni ein pechod ac euogrwydd ein bai. Ond bwriadodd yr Arglwydd mwy eto ar ein cyfer ni na dim ond cyflwr sanctaidd, di-fai. Mewn cyflwr sanctaidd, di-fai, bwriadodd yr Arglwydd ein gwneud ni'n blant iddo'i hun yng Nghrist. Bwriadodd y Tad tragwyddol ein mabwysiadu ni yn blant iddo'i hun, a hynny ar gyfer y rheswm pennaf un - clod ei ras gogoneddus. Bwriadodd Duw ein mabwysiadu oherwydd bod hynny'n dangos ei ras a'i drugaredd, ac yn dwyn clod iddo ef!
Dyma rodd o ras i ni, nid hawl rydyn ni wedi ennill, a fel pob bendith ysbrydol arall, (Eff 1: ) mae'n rhodd sy'n dod i ni yng Nghrist. Am fod Crist yn annwyl gan ei Dad tragwyddol, rydyn ni sydd yng Nghrist hefyd yn annwyl iddo, ac yn rhannu yn hunaniaeth Crist fel plentyn i Dduw. Fe yw Mab tragwyddol y Tad - y rhai ohonom sydd yng Nghrist yw plant mabwysiedig y Tad.
Mae angen eglurder yn hyn i gyd. Nid pob un dynol sy'n blentyn i Dduw. Yn hytrach, mae'r gair yn neud yn glir bod pawb, wrth natur, yn gorwedd dan ddigofaint Duw. Wrth natur, gelynion i Dduw ydym, ond nad yw hynny'n dystiolaeth inni o fawredd ei gariad! Bu farw Anwylyd Duw dros elynion, dieithriaid ac estroniaid i'r Tad, a hynny fel y byddai gelyn yn medru dod yn blentyn. Mae hyn wrth wraidd gwaith Crist drosom. Cafodd Iesu, gwir Fab Duw, ei drin fel gelyn i Dduw drwy gymryd y farn ar y groes, fel ein bod ni, gwir elynion i Dduw, yn cael ein derbyn yn blant iddo. Dyma achubiaeth ryfeddol!
Amser i fyfyrio
Beth mae myfyrio ar y pethau uchod yn dysgu i mi am Dduw?
Sut mae'r gwirioneddau hyn yn siapio fy meddwl heddiw?
Beth mae'n edrych fel i mi fyw yng ngoleuni'r gwirioneddau hyn heddiw?
.png)