Pob bendith, yng Nghrist
- Alun Bryn

- May 15
- 2 min read
Bendigedig fyddo Duw a Thad ein Harglwydd Iesu Grist! Y mae wedi'n bendithio ni yng Nghrist â phob bendith ysbrydol yn y nefolion leoedd. - Effesiaid 1:3
Yn Abertawe, yn achlysurol iawn roeddwn i'n mentro i'r gym yn Llansamlet. Roedd hi'n gym wych, gydag offer bocsio, codi pwysau, peiriannau cardio - popeth oedd ei angen ar berson oedd yn dymuno datblygu ei ffitrwydd a'i gryfder. Serch hynny, roedd rhaid gwneud rhywbeth er mwyn i'r holl offer hynny fod o fudd i berson - roedd rhaid bod yn y gym (er imi dalu fy aelodaeth, dyma oedd fy mhroblem pennaf!). Heb fod yn y gym, er mor anhygoel oedd yr arlwy yno, doedd yr offer ddim o unrhyw fudd i berson. Roedd rhaid bod yn y gym i gael budd o'r holl gyfleusterau oedd yno. I'r person oedd yn y gym, roedd gwledd go iawn o declynnau i'w mwynhau.
Heb fod ynddi, dydy'r gym ddim o fudd i berson, ond i'r person sydd ynddi, mae'r holl gyfleusterau ar gael er ei les a'i gryfhad.
Fe allwn ni feddwl am y ffordd mae Duw y Tad yn tywallt ei fendithion ysbrydol ar bobl mewn ffordd debyg. Heb fod yng Nghrist, dydy holl fendition Duw ddim o fudd i berson o gwbl, ond i'r rhai sy'n cael eu hunain yng Nghrist, mae'r Arglwydd yn tywallt ei fendithion yn hael! Yr ailenedigaeth, maddeuant pechod, cyfiawnhad, mabwysiad, sancteiddhad, llawenydd, tangnefedd, iachâd terfynol ein cyrff, etifeddiaeth dragwyddol, gogoniant oesol - mae'r holl fendithion ysbrydol sydd gan y Tad ar ein cyfer ni yn dod i ni yng Nghrist yn unig, ond hynny mewn digonedd.
Mewn darlun mwy addas na'r gym, mae Paul yn dysgu bod priodas yn undod daearol sy'n ein pwyntio ni at undod nefol, uwch - undod Iesu Grist a'i eglwys (Eff 5:22-33). Pan mae gŵr a gwraig yn priodi, maen nhw'n dod yn un cnawd ac yn dal pob peth materol yn gyffredin. Pan mae person yn rhoi ei ffydd yn Iesu ac yn ymlynu wrtho, mae'r person hwnnw yn dod yn un mewn ysbryd gyda Iesu (1 Cor 6:17), ac yn dal pob peth ysbrydol yn gyffredin gydag ef. Mae'r Arglwydd Iesu yn rhannu â ni yr hyn sy'n eiddo iddo ef! [1] Oherwydd mai Crist yw'r Mab sydd wrth fodd ei Dad, yr un sydd yn wirioneddol wyn ei fyd (Salm 1:1), yr un y mae'r Tad wedi ei fendithio ers tragwyddoldeb, gwyn ein byd ninnau os ydyn ni'n llochesu ynddo (Salm 2:12), oherwydd ein bod ni'n derbyn y bendithion ysbrydol hynny sy'n eiddo iddo fe.
Amser i fyfyrio
Beth mae myfyrio ar y gwirioneddau hyn yn dysgu i mi am Dduw?
Sut mae'r gwirioneddau hyn yn siapio fy meddwl heddiw?
Beth mae'n edrych fel i mi fyw yng ngoleuni'r gwirioneddau hyn heddiw?
[1] Michael Reeves, How to be happy in Christ (Matters of the Heart, part 2), https://www.unionpublishing.org/resource/matters-of-the-heart-2-how-to-be-happy-in-christ-michael_reeves/
.png)